Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Constitutional and Legislative Affairs Committee
Leighton Andrews AC Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus Llywodraeth Cymru 5ed Llawr, Tŷ Hywel Bae Caerdydd CF99 1NA |
10 Chwefror 2015 |
Annwyl Leighton
Diolch am eich llythyr dyddiedig 23 Rhagfyr 2014 ynghylch Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) (Rhif 2) 2014, y gwnaethom ei ystyried yn ein cyfarfod ar 12 Ionawr 2015.
Rydym yn deall yr anawsterau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u hwynebu wrth wneud y ddeddfwriaeth hon eleni ac yn ystod y blynyddoedd blaenorol. Mae materion tebyg hefyd wedi codi mewn perthynas â gwneud is-ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â'r dreth gyngor.
Serch hynny, ac fel yr awgrymwyd yn ein hadroddiad ar reoliadau'r Dreth Gyngor yn 2013, credwn fod lle i hwyluso taith a gwaith craffu ar is-ddeddfwriaeth sy'n dibynnu ar amseriad Datganiad Hydref y Canghellor.
Cytunwyd y byddai'n ddefnyddiol i awgrymu'r ffordd a ffafrir gennym ni o ymdrin â'r gwaith o graffu ar y ddeddfwriaeth hon yn y dyfodol. Rydym yn
cynnig, felly, tair carreg filltir allweddol fel rhan o'r broses graffu, sef:
i. hysbysiad ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru, erbyn 31 Hydref, o'r sefyllfa ynglŷn â gwneud unrhyw is-ddeddfwriaeth yn ymwneud â Datganiad Hydref y Canghellor. Gallai gohebiaeth ddilynol ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf yn ôl yr angen.
ii. darparu is-ddeddfwriaeth ddrafft ar gyfer ein cyfreithwyr erbyn 21 Tachwedd, heb y ffigurau perthnasol sy'n dibynnu ar ddatganiad y Canghellor. Byddai hyn yn unol ag arfer presennol ac yn galluogi'r pwyllgor i gael ei friffio mewn cyfarfod cyn toriad y Nadolig.
iii. anelu i drafod yr is-ddeddfwriaeth berthnasol yn y cyfarfod llawn o leiaf 5 diwrnod gwaith ar ôl i'r pwyllgor graffu ar y rheoliadau. Byddai hyn yn caniatáu i'r pwyllgor gyflwyno adroddiad o fewn cryn dipyn o amser ac osgoi sefyllfa lle mae gwaith y pwyllgor yn cael ei gyfyngu gan amserlenni annodweddiadol sy'n gwyro'n sylweddol o'r drefn arferol.
Byddwn yn croesawu eich barn ar y cynigion hyn ac edrychaf ymlaen at glywed gennych yn fuan.
Yn gywir
David Melding AC
Cadeirydd